Blog

Cofio Cawr – teyrnged i Dewi ‘Pws’ Morris

today26 August 2024 140

Background
share close

Daeth y newyddion trist dydd Iau (Awst 22) fod Dewi ‘Pws’ Morris wedi marw, yn dilyn cyfnod byr o salwch, yn 76 oed.

Ffigwr chwedlonol yn niwylliant Cymru ers y 60au, ganed Dewi Gray Morris ym 1948 a mynychodd ysgolion Lôn Las a Dinefwr yn ardal Abertawe cyn hyfforddi fel athro yng Ngholeg Cyncoed. Dysgodd am gyfnod yn ardal Sblot yn y brifddinas cyn dilyn ei galon a’i angerdd am y llwyfan i swydd lawn-amser gyda Chwmni Theatr Cymru.

Mae’r rhestr o’i lwyddiannau a gwobrau mewn amryw o feysydd yn hir ac yn gyfarwydd i’r mwyafrif o’r Cymry Cymraeg – ei yrfa gerddorol gyda’r Tebot Piws, actor mewn ffilmiau a chyfresi llwyddiannus yn y Gymraeg a’r Saesneg, wedi’i groesawu i’r Orsedd dan yr enw ‘Dewi’n y Niwl’ yn 2010, gradd er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe yn 2018 a llawer mwy – a bydd llawer o erthyglau yn ei drin yn fwy trylwyr.

Hoffwn i siarad am agwedd arall o gymynaeth Dewi Pws nad yw’n gyfarwydd i lawer ac sydd wedi cael dylanwad arbennig arnaf fi.

Siaradwr ail-iaith o aelwyd uniaith Saesneg, roedd Dewi Pws yn ysbrydoliaeth ac yn esiampl i mi ac i lawer eraill na doedd ‘Cymreictod’ jest yn fater o gael achau Cymreig ond yn rhywbeth i’w fyw yn feunyddiol. Ymgyrchydd brwd dros yr iaith a dros ddyfodol annibynnol i Gymru, meiddiai neb honni na doedd Pws yn ‘Gymro i’r carn’ er iddo ddod o dras ddi-gymraeg.

Yn anffodus, dyma’r union frwydr oedd yn wynebu gormod o ddysgwyr – gan gynnwys finnau – yn ystod fy mhlentyndod ac yn waeth eto, mae’n parhau hyd yn heddiw.

I mi, y deyrnged gorau i Pws fase chwalu’r hen syniadau ysgarol unwaith ac am byth. Hoffwn i weld cymuned y Cymry Cymraeg yn darparu mwy o gyfleoedd anffurfiol i ddysgwyr, siaradwyr ail-iaith a’r miloedd o blant a phobl ifanc sydd ddim yn defnyddio eu Cymraeg tu hwnt i’r dosbarth. Rhaid i ni weithio ar y cyd i chwalu’r hen ofn beirniadaeth ac i greu delwedd groesawgar i’r iaith oedd mor bwysig ac mor werthfawr i Dewi Pws.

Diolch o galon cenedl a chysga’n dawel, Dewi Pws – welwn ni byth ‘mo dy debyg.

‘Ysgrifennwyd gan  Keri-Elisabeth Roberts

Written by: Kym Frederick

Rate it

Join our VIP club

Free Tickets, Exclusive news, Guest access to special events, and a chance to be part of our team